Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 3 Hydref 2019

Amser: 08.47 - 12.34
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5760


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Mark Polin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gary Doherty, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Deborah Carter, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Sue Hill, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Rhys Jones, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Tania Osborne, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi

Gillian Baranski, Arolygiaeth Gofal Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Lowri Jones (Dirprwy Glerc)

Sarah Hatherley (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC a Helen Mary Jones AC.

</AI1>

<AI2>

2       Craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2.2 Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu tystiolaeth atodol ynghylch:

·         y canran o bobl ifanc sy’n cael eu hasesu ar gyfer triniaeth CAMHS arbenigol o fewn y terfynau amser gofynnol ar gyfer atgyfeiriadau;

·         y terfynau amser ar gyfer amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol;

·         esboniad o’r cyfyngiadau sydd ar waith sy’n rhwystro pobl ifanc sy’n ystyried hunanladdiad neu sy’n hunan-niweidiol rhag cael eu derbyn i’r Uned CAMHS yn Abergele a pha gamau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu cymryd i ymdrin â’r problemau o ran recriwtio i’r uned.

</AI2>

<AI3>

3       Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Cymru

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

</AI3>

<AI4>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

</AI4>

<AI5>

5       Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): trafod yr amserlen ddrafft

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer y Bil.

</AI5>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>